Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 ac, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (9), deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2022.

(2Daw rheoliad 10(2) i rym yn union ar ôl i adran 191(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007(2) ddod i rym.

(3Daw rheoliad 25(4)(b), (c)(i) a (d) i rym yn union ar ôl i adran 118(3) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016(4) a pharagraffau 19 ac 20 o Atodlen 7 iddi ddod i rym.

(4Daw rheoliad 25(5) i rym yn union ar ôl i adran 120(5) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 8 o Atodlen 8 iddi ddod i rym.

(5Daw rheoliad 25(6) i rym yn union ar ôl i adran 120 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 9 o Atodlen 8 iddi ddod i rym.

(6Daw rheoliad 25(9) i rym yn union ar ôl i adran 120 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 11 o Atodlen 8 iddi ddod i rym.

(7Daw rheoliad 25(10) i rym yn union ar ôl i adran 120 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 12 o Atodlen 8 iddi ddod i rym.

(8Daw rheoliad 25(11)(a) i rym yn union ar ôl i adran 120 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 11 o Atodlen 8 iddi ddod i rym.

(9Daw rheoliad 25(11)(b) i rym yn union ar ôl i adran 120 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 13(3) o Atodlen 8 iddi ddod i rym.

(10Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

(1)

Mae adran 191 yn mewnosod adran 60A yn Neddf Llysoedd Sirol 1984 (p. 28).

(3)

Mae adran 118 yn rhoi effaith i Atodlen 7 (tenantiaethau diogel etc.: diddymu tenantiaethau am oes yn raddol).

(5)

Mae adran 120 yn rhoi effaith i Atodlen 8 (olynu i denantiaethau diogel a thenantiaethau cysylltiedig).