xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1201 (Cy. 246) (C. 92)

Gwasanaethau Iechyd, Cymru

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Deddf Cyflenwadau Meddygol Gwasanaethau Iechyd (Costau) 2017 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2022

Gwnaed

am 11.43 a.m. ar 18 Tachwedd 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 12(2) o Ddeddf Cyflenwadau Meddygol Gwasanaethau Iechyd (Costau) 2017(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cyflenwadau Meddygol Gwasanaethau Iechyd (Costau) 2017 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2022.

Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 21 Tachwedd 2022

2.  Daw adran 2 o Ddeddf Cyflenwadau Meddygol Gwasanaethau Iechyd (Costau) 2017 i rym ar 21 Tachwedd 2022.

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 11.43 a.m. ar 18 Tachwedd 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn a wneir gan Weinidogion Cymru yn dwyn i rym adran 2 o Ddeddf Cyflenwadau Meddygol Gwasanaethau Iechyd (Costau) 2017 (“y Ddeddf”) ar 21 Tachwedd 2022. Mae adran 2 yn diwygio adran 88 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae adran 88 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â phennu tâl ar gyfer personau sy’n darparu gwasanaethau fferyllol. Mae’r diwygiadau a wneir gan adran 2 o’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch tâl am wasanaethau fferyllol yn benodol o ran cynhyrchion meddyginiaethol arbennig.