2022 Rhif 1348 (Cy. 271)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

a

paragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181 a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi;

b

i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 3(8), Erthyglau 48(b) a 144(6) o Reoliad (EU) 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion2.

I’r graddau y gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau o dan Erthyglau 48(b) a 144(6) o Reoliad (EU) 2017/625, yn unol ag Erthygl 144(7), cyn gwneud y Rheoliadau hyn mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyrff a’r personau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli’r buddiannau y mae’n debygol y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio’n sylweddol arnynt a’r cyrff a’r personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad3.