xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 585 (Cy. 135)

Harbyrau, Dociau, Pierau A Fferïau, Cymru

Gorchymyn Adolygu Harbwr Abertawe (Cau Doc Tywysog Cymru) 2022

Gwnaed

24 Mai 2022

Yn dod i rym

26 Mai 20222

Yn unol ag adran 14(1) o Ddeddf Harbyrau 1964(1) (“y Ddeddf”), mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud mewn perthynas â harbwr sy’n cael ei wella, ei gynnal neu ei reoli gan awdurdod harbwr wrth arfer a chyflawni pwerau a dyletswyddau statudol, i gyflawni amcanion a bennir yn Atodlen 2 i’r Ddeddf(2).

Mae Associated British Ports, sef yr awdurdod harbwr ar gyfer Porthladd Abertawe, wedi gwneud cais yn unol ag adran 14(2)(a) o’r Ddeddf am orchymyn adolygu harbwr o dan adran 14 o’r Ddeddf.

Mae swyddogaethau’r Gweinidog priodol at ddiben yr adran honno wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru(3).

Mae hysbysiad wedi ei gyhoeddi yn unol â gofynion paragraff 10 o Atodlen 3 i’r Ddeddf ac mae darpariaethau paragraffau 15 a 17 o Atodlen 3 i’r Ddeddf wedi eu bodloni. Ni wnaed dim gwrthwynebiadau i’r cais.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 14(1) a (3) o’r Ddeddf, a chan eu bod yn fodlon bod gofynion adran 14(2)(b) a (2B) o’r Ddeddf honno wedi eu bodloni, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

RHAN 1RHAGARWEINIOL

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adolygu Harbwr Abertawe (Cau Doc Tywysog Cymru) 2022.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 26 Mai 2022.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “beic jet” (“jet bike”) yw unrhyw fad dŵr (nad yw’n strwythur sydd, oherwydd ei siâp ceugrwm, yn darparu hynofedd ar gyfer cludo personau neu nwyddau) sy’n cael ei yrru gan injan jet ddŵr neu ddull mecanyddol arall o yrru ac sy’n cael ei lywio naill ai—

(a)

drwy gyfrwng system gysylltwaith a weithredir â bar handlenni (gyda neu heb lyw yn y starn),

(b)

gan y person neu’r personau sy’n reidio’r bad gan ddefnyddio pwysau ei gorff neu bwysau eu cyrff at y diben hwnnw, neu

(c)

drwy gyfuniad o’r dulliau y cyfeirir atynt yn (a) a (b);

ystyr “Deddf 1874” (“the 1874 Act”) yw Deddf Harbwr Abertawe 1874(4);

ystyr “Deddf 1894” (“the 1894 Act”) yw Deddf Harbwr Abertawe 1894(5);

ystyr “Deddf 1901” (“the 1901 Act”) yw Deddf Harbwr Abertawe 1901(6);

ystyr “Deddfau Harbwr Abertawe 1874 – 1901” (“the Swansea Harbour Acts 1874 – 1901”) yw Deddf 1874, Deddf 1894 a Deddf 1901 gyda’i gilydd;

ystyr “Doc Tywysog Cymru” (“the Prince of Wales Dock”) yw’r doc a’r gweithfeydd cysylltiedig sy’n ffurfio rhan o Borthladd Abertawe a awdurdodwyd gan Ddeddfau Harbwr Abertawe 1874 – 1901 ac a ddangosir ag ymyl coch ar blan Doc Tywysog Cymru;

ystyr “y docfeistr” (“the dock master”) yw unrhyw berson a benodir yn ddocfeistr Porthladdoedd AB ym Mhorthladd Abertawe ac unrhyw berson arall sydd am y tro wedi ei awdurdodi gan Borthladdoedd AB i weithredu, naill ai yn gyffredinol neu at ddiben penodol, yn rhinwedd docfeistr;

mae “llestr” (“vessel”) yn cynnwys llong, cwch, cwch preswyl, rafft, ysgraff neu fad dŵr o unrhyw ddisgrifiad, sut bynnag y caiff ei yrru neu ei symud, ac mae’n cynnwys badau nad ydynt yn dadleoli, beic jet, bad dŵr personol, awyren fôr ar arwyneb y dŵr, llestr hydroffoil, hofrenfad neu unrhyw gerbyd amffibiaidd arall ac unrhyw beth arall a adeiladwyd neu a addaswyd ar gyfer arnofio ar ddŵr neu fod wedi ymsuddo mewn dŵr (boed yn barhaol neu dros dro);

ystyr “meistr” (“master”) mewn perthynas â llestr yw unrhyw berson a chanddo neu sy’n cymryd llywyddiaeth, cyfrifoldeb, rheolaeth neu arweiniad dros y llestr am y tro;

ystyr “plan Doc Tywysog Cymru” (“the Prince of Wales Dock plan”) yw’r plan a nodir yn Atodlen 2;

ystyr “plan terfynau porthladd Porthladd Abertawe” (“the Port of Swansea port limits plan”) yw’r plan a nodir yn Atodlen 1;

ystyr “Porthladd Abertawe” (“the Port of Swansea”) yw’r dociau a’r harbwr sy’n ffurfio ymgymeriad Porthladdoedd AB yn Abertawe y mae ei derfynau wedi eu hamlinellu ym mhlan terfynau porthladd Porthladd Abertawe;

ystyr “Porthladdoedd AB” (“AB Ports”) yw Associated British Ports.

RHAN 2CAU DOC TYWYSOG CYMRU

Cau Doc Tywysog Cymru

3.—(1Caiff Porthladdoedd AB, ar ddiwrnod o fewn 42 o ddiwrnodau gan ddechrau pan ddaw’r Gorchymyn hwn i rym, gau Doc Tywysog Cymru.

(2Pan gaeir Doc Tywysog Cymru o dan baragraff (1)—

(a)mae Doc Tywysog Cymru yn peidio â ffurfio rhan o Borthladd Abertawe;

(b)mae pob dyletswydd a rhwymedigaeth a osodir ar Borthladdoedd AB o dan Ddeddfau Harbwr Abertawe 1874 – 1901 mewn cysylltiad â Doc Tywysog Cymru i ddod i ben;

(c)mae unrhyw hawliau mordwyo, a phob un ohonynt, o fewn Doc Tywysog Cymru wedi eu diddymu;

(d)mae unrhyw ddyletswyddau neu rwymedigaethau, a phob un ohonynt, i gynnal sianel fordwyol i Ddoc Tywysog Cymru o fewn yr ardal a ddangosir â llinellau glas ar blan Doc Tywysog Cymru neu i gynnal pont droi ar draws yr ardal honno wedi ei diddymu.

(3Cyn arfer y pŵer a roddir iddo gan baragraff (1) rhaid i Borthladdoedd AB—

(a)cyhoeddi hysbysiad o’i fwriad i gau Doc Tywysog Cymru yn Lloyd’s List ac unwaith ym mhob un o ddwy wythnos olynol mewn papur newydd lleol a gyhoeddir neu sy’n cylchredeg yn Abertawe gyda chyfnod rhwng y dyddiadau cyhoeddi nad yw’n llai na chwe diwrnod gwaith;

(b)arddangos copi o un o’r hysbysiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(a) mewn lle amlwg yng nghyffiniau Porthladd Abertawe;

(c)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o’i fwriad i gau Doc Tywysog Cymru.

(4Rhaid i’r hysbysiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(a)—

(a)datgan bod Porthladdoedd AB yn bwriadu cau Doc Tywysog Cymru i lestrau a’r dyddiad y mae Doc Tywysog Cymru i gau i lestrau ohono;

(b)pennu dyddiad, sy’n ddyddiad nad yw’n gynharach nag un mis ar ôl dyddiad y diweddaraf o’r tri hysbysiad ym mharagraff (3)(a) erbyn pryd y mae rhaid i bob llestr gael ei symud o Ddoc Tywysog Cymru.

Cymhwysiad Deddfau Harbwr Abertawe 1874 – 1901

4.—(1Pan gaeir Doc Tywysog Cymru yn unol ag erthygl 3, mae Deddfau Harbwr Abertawe 1874 – 1901, gan gynnwys unrhyw gytundeb sydd wedi ei atodi i unrhyw un neu ragor o’r Deddfau hynny, yn peidio â bod yn gymwys i Ddoc Tywysog Cymru.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—

(a)adran 6 (pŵer i ddargyfeirio dŵr i’r dociau) o Ddeddf 1874;

(b)adran 7 (pŵer i ddargyfeirio dŵr i’r dociau) o Ddeddf 1894;

(c)adran 7 (pŵer i gymryd dŵr a’i ddargyfeirio) o Ddeddf 1901.

Symud llestrau o Ddoc Tywysog Cymru

5.—(1Os nad yw meistr unrhyw lestr sydd o fewn Doc Tywysog Cymru yn symud y llestr cyn y dyddiad a bennir yn unol ag erthygl 3(4)(b), caiff y docfeistr beri i’r llestr honno gael ei symud o Ddoc Tywysog Cymru a’i hangori neu ei gosod yn unrhyw le arall lle y gall, heb niwed, gael ei hangori neu ei gosod.

(2Caiff Porthladdoedd AB adennill fel dyled gan feistr unrhyw lestr a symudir o dan baragraff (1) bob traul resymol yr eir iddi mewn cysylltiad â’i symud.

O ran llestrau yn mynd i Ddoc Tywysog Cymru

6.  Os yw unrhyw lestr yn mynd i Ddoc Tywysog Cymru ar ôl y dyddiad a bennir yn erthygl 3(4)(b) o’r Gorchymyn hwn, caiff y docfeistr gyfarwyddo meistr y llestr i symud y llestr o Ddoc Tywysog Cymru, ac os nad yw meistr y llestr yn cydymffurfio heb oedi gormodol â chyfarwyddydau o’r fath, mae erthygl 5 yn gymwys i’r llestr fel pe bai’r llestr wedi bod o fewn Doc Tywysog Cymru cyn y dyddiad hwnnw.

Lee Waters

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn gweithredu o dan awdurdod y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

24 Mai 2022

Erthygl 2

Atodlen 1Plan terfynau porthladd Porthladd Abertawe

Port of Swansea Port Limits Plan - Welsh

Erthygl 2

Atodlen 2Plan Doc Tywysog Cymru

Prince of Wales Dock Plan - Welsh

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud ar gais Associated British Ports (“Porthladdoedd AB”), sef yr awdurdod harbwr ar gyfer Doc Tywysog Cymru (y “Doc”) ym Mhorthladd Abertawe (y “Porthladd”), gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 14 o Ddeddf Harbyrau 1964.

Mae’r Gorchymyn hwn yn awdurdodi cau’r Doc ac yn dod â chymhwysiad deddfwriaeth leol i ben, gan gynnwys cytundebau sydd wedi eu hatodi i’r ddeddfwriaeth honno, i’r graddau y maent yn ymwneud â’r Doc.

Pan wneir y Gorchymyn hwn a phan gaeir y Doc, bydd yr hyn a ganlyn yn cymryd effaith—

(a)bydd y Doc yn peidio â ffurfio rhan o Borthladd Abertawe,

(b)bydd dyletswyddau a rhwymedigaethau statudol Porthladdoedd AB mewn perthynas â’r Doc yn dod i ben,

(c)bydd pob hawl fordwyo mewn perthynas â’r Doc yn cael ei diddymu, a

(d)bydd y rhwymedigaeth ar Borthladdoedd AB i gynnal mynediad mordwyo i’r Doc o weddill y Porthladd yn cael ei diddymu.

Gellir edrych ar gopïau o’r planiau y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn hwn yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ym mhrif swyddfa Porthladdoedd AB.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

1964 p. 40. Diwygiwyd adran 14 gan adran 18 o Ddeddf Trafnidiaeth 1981 (p. 56), paragraffau 2 i 4(1) a 14 o Atodlen 6 iddi, ac adran 40 ac Atodlen 12 (Rhan 2) iddi; adran 63(1) o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42) a pharagraff 1 o Atodlen 3 iddi; gan reoliad 2 o O.S. 2006/1177 a’r Atodlen (Rhan 1) iddo; gan adran 36 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) a pharagraffau 8 a 9 o Atodlen 2 iddi; a chan erthygl 2 o O.S. 2009/1941 a pharagraff 12 o Atodlen 1 iddo.

(2)

Diwygiwyd Atodlen 2 yn berthnasol gan baragraff 9 o Atodlen 3 i Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42); adrannau 36(4) a 50(1) o Ddeddf Dociau a Harbyrau 1966 (p. 28); adrannau 58(7), 101(1), 141(6), 160(1)(2)(4), 163, 189(4) i (10), 190, a 193(1) o Ddeddf Dŵr 1989 (p. 15), paragraff 31(1) o Atodlen 25 iddi, a pharagraffau 3(1)(2), 17, 40(4), 57(6) a 58 o Atodlen 26 iddi; a rheoliad 2 o O.S. 2006/1177 a’r Atodlen (Rhan 1) iddo.

(3)

Adran 29(1) a (2)(b)(ii) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4), yn ddarostyngedig i baragraff 1(1) o Atodlen 1 i O.S. 2018/278.

(4)

1874 p. civ.

(5)

1894 p. cv.

(6)

1901 p. ccliii.