Enwi a dehongliI11

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022.

2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 99 o’r Ddeddf;

  • ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed;

  • ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;

  • ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;

  • mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 5792 o Ddeddf 1996;

  • ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;

  • ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19963;

  • mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 4344 o Ddeddf 1996;

  • ystyr “dosbarth derbyn” (“reception class”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 5 oed;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;

  • ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

  • mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 85 o Ddeddf 1996;

  • ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;

  • mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 15 o’r Ddeddf;

  • ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 20126;

  • mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 5767 o Ddeddf 1996;

  • ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru8;

  • mae i “yn ardal” (“in the area”) yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)9 o Ddeddf 1996;

  • mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf.

3

Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996.

4

Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—

a

y Ddeddf,

b

rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac

c

unrhyw ddarpariaeth arall o ddeddf, neu a wneir o dan ddeddf, sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—

i

darpariaeth o’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath, neu

ii

person y mae’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.

5

At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl os caiff ei thynnu’n ôl, neu—

a

os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a

b

os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei wneud.

6

At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.

7

At ddibenion y Gorchymyn hwn, o ran plentyn—

a

pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;

b

pan na fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn.

8

At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae apêl yn mynd rhagddi pan—

a

na fo’r cyfnod y gallai apêl o dan adran 326(1), 328(3)(b) neu 329A(8) o Ddeddf 1996, neu baragraff 11 o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 gael ei gwneud ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

b

bo’r plentyn neu riant y plentyn wedi gwneud apêl o dan adran 326(1), 328(3)(b) neu 329A(8) o Ddeddf 1996, neu baragraff 11 o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 ac na ddyfarnwyd yn derfynol ar yr apêl honno.