Enwi a dehongliLL+C
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 99 o’r Ddeddf;
ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed;
ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;
ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;
mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;
ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2);
mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434(3) o Ddeddf 1996;
ystyr “dosbarth derbyn” (“reception class”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 5 oed;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8(4) o Ddeddf 1996;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 15 o’r Ddeddf;
ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012(5);
mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 576(6) o Ddeddf 1996;
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru(7);
mae i “yn ardal” (“in the area”) yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)(8) o Ddeddf 1996;
mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf.
(3) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996.
(4) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—
(a)y Ddeddf,
(b)rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac
(c)unrhyw ddarpariaeth arall o ddeddf, neu a wneir o dan ddeddf, sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—
(i)darpariaeth o’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath, neu
(ii)person y mae’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.
(5) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl os caiff ei thynnu’n ôl, neu—
(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei wneud.
(6) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.
(7) At ddibenion y Gorchymyn hwn, o ran plentyn—
(a)pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;
(b)pan na fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn.
(8) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae apêl yn mynd rhagddi pan—
(a)na fo’r cyfnod y gallai apêl o dan adran 326(1), 328(3)(b) neu 329A(8) o Ddeddf 1996, neu baragraff 11 o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 gael ei gwneud ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(b)bo’r plentyn neu riant y plentyn wedi gwneud apêl o dan adran 326(1), 328(3)(b) neu 329A(8) o Ddeddf 1996, neu baragraff 11 o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 ac na ddyfarnwyd yn derfynol ar yr apêl honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud
Mewnosodwyd diffiniad o “school year” gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 43 o Atodlen 7.
Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 111 o Atodlen 30 a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.
Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).
Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 180 o Atodlen 30 ac Atodlen 31.
Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a diwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.