14.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn pan fo apêl yn mynd rhagddi ar 30 Awst 2024 mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—
(a)oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol;
(b)pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar yr apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.