xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 10) 2022.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8(1) o Ddeddf Addysg 1996(2);

ystyr “person ifanc” (“young person”) yw person sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ar 1 Medi 2022.

(1)

Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).