Newid mewn amgylchiadauLL+C

17.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022—

(a)sy’n peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal,

(b)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, ac

(c)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 17 mewn grym ar y dyddiad gwneud