Plant sy’n dod yn bersonau ifanc cyn bod y gyfraith newydd yn gymwys21
1
Mae paragraff (2) yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022.
2
Nid yw dyletswydd ym mharagraff (3) na phŵer ym mharagraff (4) yn gymwys pan fydd person yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.
3
Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
a
y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i riant yn erthyglau 9(2) a 10(2);
b
y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan riant o dan erthygl 11;
c
y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i riant o fewn 12 wythnos yn erthygl 12(1).
4
Y pwerau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
a
y pŵer i riant ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU yn erthygl 11;
b
y pŵer i roi hysbysiad ADY i riant yn erthygl 13.
5
Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (3)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at riant plentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
6
Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (3)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at riant plentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.