Plant sy’n dod yn bersonau ifanc cyn bod y gyfraith newydd yn gymwysLL+C

21.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022.

(2Nid yw dyletswydd ym mharagraff (3) na phŵer ym mharagraff (4) yn gymwys pan fydd person yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.

(3Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i riant yn erthyglau 9(2) [F1, 9A(2),] a 10(2);

(b)y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan riant o dan erthygl 11;

(c)y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i riant o fewn 12 wythnos yn erthygl 12(1).

(4Y pwerau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)y pŵer i riant ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU yn erthygl 11;

(b)y pŵer i roi hysbysiad ADY i riant yn erthygl 13.

(5Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (3)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at riant plentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.

(6Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (3)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at riant plentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.