xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
21.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022.
(2) Nid yw dyletswydd ym mharagraff (3) na phŵer ym mharagraff (4) yn gymwys pan fydd person yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.
(3) Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a)y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i riant yn erthyglau 9(2) [F1, 9A(2),] a 10(2);
(b)y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan riant o dan erthygl 11;
(c)y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i riant o fewn 12 wythnos yn erthygl 12(1).
(4) Y pwerau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a)y pŵer i riant ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU yn erthygl 11;
(b)y pŵer i roi hysbysiad ADY i riant yn erthygl 13.
(5) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (3)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at riant plentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
(6) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (3)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at riant plentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn ergl. 21(3)(a) wedi ei fewnosod (21.8.2023) gan Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchmynion Cychwyn Rhif 5, Rhif 6, Rhif 8, Rhif 13 a Rhif 14) 2023 (O.S. 2023/932), ergl. 6(9)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 21 mewn grym ar y dyddiad gwneud