xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1149 (Cy. 198) (C. 76)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Gorchymyn Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023

Gwnaed

26 Hydref 2023

Yn dod i ryme

30 Hydref 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 22(2) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023(1).

Yn unol ag adran 21(3) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023 a daw i rym ar 30 Hydref 2023.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 30 Hydref 2023

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 i rym ar 30 Hydref 2023—

(a)adran 1 (cysyniadau allweddol: “cynnyrch plastig”, “untro” a “plastig”);

(b)adran 2 (cynhyrchion plastig untro gwaharddedig);

(c)adran 5 (y drosedd o gyflenwi cynhyrchion plastig untro gwaharddedig);

(d)adran 6 (trosedd: dull treial a chosb);

(e)adran 7 (camau gorfodi gan awdurdod lleol);

(f)adran 8 (pŵer i wneud pryniannau prawf);

(g)adran 9 (pŵer mynediad);

(h)adran 10 (pŵer mynediad: mangreoedd preswyl);

(i)adran 11 (pŵer mynediad: amgylchiadau eraill pan fo gwarant yn angenrheidiol);

(j)adran 12 (pwerau mynediad: atodol);

(k)adran 13 (pŵer arolygu);

(l)adran 14 (y drosedd o rwystro etc. swyddogion);

(m)adran 15 (eiddo a gedwir: apelau);

(n)adran 16 (eiddo a gyfeddir: digolledu);

(o)adran 18 (troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig eraill);

(p)adran 19 (atebolrwydd troseddol uwch-swyddogion etc.);

(q)adran 20 (dehongli);

(r)paragraff 1 o’r Atodlen (cynhyrchion plastig untro gwaharddedig), ac eithrio’r cofnodion yng ngholofn 1 a cholofn 2 o’r Tabl ar gyfer “caeadau ar gyfer cwpanau neu gynhwysyddion cludfwyd”, “bagiau siopa” ac “unrhyw gynnyrch a wnaed o gynnyrch plastig ocso-ddiraddiadwy— (a) pa un a yw’r cynnyrch hwnnw yn ymddangos yn rhywle arall yn y tabl hwn ai peidio, a (b) pa un a fyddai’r math penodol o gynnyrch, neu’r diben y cyflenwir y cynnyrch hwnnw (neu fath penodol o gynnyrch) ar ei gyfer, fel arall wedi ei esemptio oherwydd cofnod yng ngholofn 2 ai peidio.”;

(s)paragraff 2 o’r Atodlen.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

26 Hydref 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Cafodd Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (dsc 2) (“y Ddeddf”) y Cydsyniad Brenhinol ar 6 Mehefin 2023.

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru ac mae’n dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 30 Hydref 2023—