xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
8 Tachwedd 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 19(5) o Ddeddf Ardrethu Annomestig 2023(1).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2023.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Ardrethu Annomestig 2023 i rym ar 21 Tachwedd 2023—
(a)adran 15(1), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau ym mharagraffau (b) ac (c);
(b)adran 15(3)(a), (c)(ii) a (d);
(c)adran 15(4).
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
8 Tachwedd 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Y Rheoliadau hyn yw’r rheoliadau cychwyn cyntaf sydd wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Ardrethu Annomestig 2023 (“Deddf 2023”). Mae rheoliad 2 yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol yn adran 15 o Ddeddf 2023 mewn perthynas â’r lluosydd ardrethu annomestig yng Nghymru ar 21 Tachwedd 2023.