2023 Rhif 1290 (Cy. 228)
Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn1 drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 45AA(6), (7), (10) ac (11) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 19902, adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 19993 (“Deddf 1999”) ac adrannau 36(2), 39, 42, 45 a 52 i 55 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 20084 (“Deddf 2008”).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf 1999 ac adrannau 59(3) a 60 o Ddeddf 20085.
Yn unol ag adran 66 o Ddeddf 2008 mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (sef y rheoleiddiwr at ddiben y Rheoliadau hyn) yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o’r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Rheoliadau hyn.