2023 Rhif 1296 (Cy. 231)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 36(2), 39, 42, 45, a 52 i 55 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 20081 (“Deddf 2008”).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag adrannau 59(3) a 60 o Ddeddf 20082 ac maent wedi eu bodloni (yn unol ag adran 66 o Ddeddf 2008) y bydd awdurdodau lleol (sef y rheoleiddiwr at ddiben y Gorchymyn hwn) yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o’r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Gorchymyn hwn.

Yn unol ag adran 61(2) o Ddeddf 20083, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.