xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
am 12.12 p.m. ar 6 Rhagfyr 2023
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 6(1)(d), 10(2)(a)(ix), 11(3)(a)(iii), 27(1) a 38(2)(g) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1) (“Deddf 2016”), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn(2).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol fel sy’n ofynnol gan adran 27(4)(a) o Ddeddf 2016, ac maent wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan adran 27(4)(b) o Ddeddf 2016. Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod copi o’r datganiad gerbron Senedd Cymru fel sy’n ofynnol gan adran 27(5) o Ddeddf 2016.
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru o dan adran 187(2)(f) o Ddeddf 2016 ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(3).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gofrestr o Ddarparwyr Gwasanaethau (Gwybodaeth Ragnodedig a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn, heblaw rheoliad 2, i rym ar 31 Rhagfyr 2023.
(3) Daw rheoliad 2 i rym ar 30 Medi 2024.
2. Mae’r wybodaeth a ganlyn wedi ei rhagnodi o dan adran 38(2)(g) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 fel gwybodaeth y mae rhaid ei dangos mewn cofnod yn y gofrestr o ddarparwyr gwasanaethau—
(a)cyfeiriad post electronig,
(b)rhif ffôn y gwasanaeth,
mewn cysylltiad â phob man lle y darperir gwasanaeth, pob man y darperir gwasanaeth ohono, neu bob man y darperir gwasanaeth mewn perthynas ag ef.
3. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 4.
4. Yn Atodlen 1, ym mharagraff 32(a), ar ôl “cyfeiriad” mewnosoder “, cyfeiriad post electronig”.
5. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017(5) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 6.
6. Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1, ar ôl “Manylion cyswllt”, hepgorer yr atalnod llawn a mewnosoder “gan gynnwys cyfeiriad post electronig a rhif ffôn.”
7. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017(6) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 8.
8. Yn Rhan 1 o Atodlen 3, ar ôl paragraff 25 mewnosoder y paragraff canlynol—
“25A. Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.”
9. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(7) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 10.
10. Yn Rhan 1 o Atodlen 3, ar ôl paragraff 22, mewnosoder y paragraff canlynol—
“22A. Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.”
11. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(8) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 12.
12. Yn Atodlen 3, ar ôl paragraff 18, mewnosoder y paragraff canlynol—
“18A. Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.”
13. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(9) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 14.
14. Yn Atodlen 3, ar ôl paragraff 21, mewnosoder y paragraff canlynol—
“22. Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.”
15. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(10) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 16.
16. Yn Rhan 1 o Atodlen 3, ar ôl paragraff 18, mewnosoder y paragraff canlynol—
“18A. Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.”
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 12.12 p.m. ar 6 Rhagfyr 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“Deddf 2016”). Diben y Rheoliadau hyn yw rhagnodi gwybodaeth ychwanegol benodol y mae rhaid ei dangos ar bob cofnod yn y gofrestr o ddarparwyr gwasanaethau a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan adran 38(1) o Ddeddf 2016. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau hysbysu Gweinidogion Cymru am newidiadau i rif ffôn a chyfeiriad post electronig gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2016.
Mae rheoliad 2 yn darparu bod gwybodaeth ychwanegol, ar ffurf cyfeiriad post electronig a rhif ffôn y gwasanaeth, yn cael ei rhagnodi o dan y pŵer a roddir gan adran 38(2)(g) o Ddeddf 2016. Rhaid i’r wybodaeth ragnodedig ychwanegol hon gael ei dangos ar y gofrestr mewn cysylltiad â phob man lle y darperir gwasanaeth, pob man y darperir gwasanaeth ohono, neu bob man y darperir gwasanaeth mewn perthynas ag ef.
Mae rheoliadau 3 a 4 yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 i osod gofyniad ar ymgeiswyr sy’n ceisio darparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd i ddarparu cyfeiriad post electronig y fangre y bwriedir darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig ynddi. Mae’r diwygiad hwn yn sicrhau bod rhaid i bob ymgeisydd ddarparu’r wybodaeth hon wrth wneud ceisiadau i gofrestru ac i amrywio cofrestriad ar gyfer pob gwasanaeth rheoleiddiedig o dan Ddeddf 2016.
Mae rheoliadau 5 a 6 yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 i gynnwys gofyniad i’r cyfeiriad post electronig a’r rhif ffôn mewn cysylltiad â phob man lle y darperir gwasanaeth, pob man y darperir gwasanaeth ohono, neu bob man y darperir gwasanaeth mewn perthynas ag ef, gael eu cynnwys fel rhan o ddatganiad blynyddol darparwr gwasanaeth.
Mae rheoliadau 7 i 16 yn diwygio’r Rheoliadau canlynol i ychwanegu gofyniad hysbysu ychwanegol ar ddarparwyr gwasanaethau o ran unrhyw newid i gyfeiriad post electronig neu rif ffôn gwasanaeth rheoleiddiedig:
(a)Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017,
(b)Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019,
(c)Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019,
(d)Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019, ac
(e)Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru.
2016 dccc 2; gweler y diffiniad o “a ragnodir” a “rhagnodedig” yn adran 189 o Ddeddf 2016.
Gweler adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.
Mae’r cyfeiriadau yn adrannau 27(5) a 187(2) o Ddeddf 2016 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).