xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 370 (Cy. 56) (C. 16)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 4) 2023

Gwnaed

26 Mawrth 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 29(2) a (3)(a) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 4) 2023.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 29 Mawrth 2023

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 29 Mawrth 2023—

(a)adran 23(3);

(b)Atodlen 2.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2023

3.—(1Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2023—

(a)adran 1;

(b)adran 2;

(c)adran 3;

(d)adran 5;

(e)adran 6;

(f)adran 7;

(g)adran 8;

(h)adran 9;

(i)adran 10;

(j)adran 13;

(k)adran 14;

(l)adran 15;

(m)adran 16;

(n)adran 17;

(o)adran 18;

(p)adran 20;

(q)adran 23(1) a (2);

(r)adran 27;

(s)paragraffau 6, 7 ac 8 o Atodlen 1;

(t)Atodlen 3.

(2Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2023, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—

(a)adran 4;

(b)adran 11.

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

26 Mawrth 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn a wneir gan Weinidogion Cymru yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 29 Mawrth 2023—

(a)adran 23(3) (dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, a materion cysylltiedig);

(b)Atodlen 2 (trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau).

Mae erthygl 3(1) o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2023—

(a)adran 1 (trosolwg o’r Ddeddf hon);

(b)adran 2 (ansawdd wrth ddarparu gwasanaethau iechyd);

(c)adran 3 (pryd y mae’r ddyletswydd gonestrwydd yn gymwys);

(d)adran 5 (darparwyr gofal sylfaenol: dyletswydd i lunio adroddiad);

(e)adran 6 (cyflenwi a chrynhoi adroddiad o dan adran 5);

(f)adran 7 (Bwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG ac Awdurdod Iechyd Arbennig: gofynion adrodd);

(g)adran 8 (cyhoeddi crynodeb adran 6 ac adroddiad adran 7);

(h)adran 9 (cyfrinachedd);

(i)adran 10 (canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru);

(j)adran 13 (amcan cyffredinol);

(k)adran 14 (ymwybyddiaeth y cyhoedd a datganiad polisi);

(l)adran 15 (sylwadau i gyrff cyhoeddus);

(m)adran 16 (gwasanaethau eirioli etc. mewn cysylltiad â chwynion am wasanaethau);

(n)adran 17 (dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth o weithgareddau Corff Llais y Dinesydd);

(o)adran 18 (dyletswydd i gyflenwi gwybodaeth i Gorff Llais y Dinesydd);

(p)adran 20 (cydweithredu rhwng y Corff, awdurdodau lleol a chyrff y GIG);

(q)adran 23(1) a (2) (dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, a materion cysylltiedig);

(r)adran 27 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);

(s)paragraffau 6 (penodi’r aelod cyswllt), 7 (telerau aelodaeth gyswllt etc.) ac 8 (anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredol) o Atodlen 1 (Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru);

(t)Atodlen 3 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).

Mae erthygl 3(2) o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2023, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes wedi eu cychwyn—

(a)adran 4 (gweithdrefn dyletswydd gonestrwydd);

(b)adran 11 (dehongli “gofal iechyd” a thermau eraill).

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 248 Mawrth 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 268 Mawrth 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 121 Ebrill 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 19 (yn rhannol)1 Ebrill 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 211 Ebrill 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 221 Ebrill 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Adran 4 (yn rhannol)7 Mawrth 20232023/259 (Cy. 36) (C. 13)
Adran 11 (yn rhannol)7 Mawrth 20232023/259 (Cy. 36) (C. 13)
Adran 257 Mawrth 20232023/259 (Cy. 36) (C. 13)
Adran 287 Mawrth 20232023/259 (Cy. 36) (C. 13)
Atodlen 1 (ac eithrio paragraffau 6, 7, 8 a 22 o’r Atodlen honno)1 Ebrill 20222022/208 (Cy. 66) (C. 9)
Paragraff 22 o Atodlen 11 Hydref 20222022/996 (Cy. 212)(2)

Gweler hefyd adran 29(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2020 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).

(2)

Ni ddyrannwyd rhif i’r offeryn yn y gyfres o Offerynnau Cychwyn.