xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 724 (Cy. 110)

Cydraddoldeb, Cymru

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023

Gwnaed

28 Mehefin 2023

Yn dod i rym

4 Medi 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 151(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1).

Yn unol ag adran 152(2) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Yn unol ag adran 209(2), (3)(b) a (6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Medi 2023.

Diwygiadau i Ran 2 o Atodlen 19 (awdurdodau Cymreig perthnasol)

2.  Yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010—

(a)hepgorer “The Higher Education Funding Council for Wales or Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder “The Commission for Tertiary Education and Research or Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.”

Darpariaeth drosiannol

3.  Hyd nes bod adran 23 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022(2) yn dod i rym, mae’r cyfeiriad at y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

28 Mehefin 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o awdurdodau Cymreig perthnasol yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 o ganlyniad i Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, sy’n diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn creu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.