xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 944 (Cy. 154)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2023

Gwnaed

31 Awst 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

1 Medi 2023

Yn dod i rym

2 Hydref 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1(5), (6) a (12) a 191(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, dod i rym a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Hydref 2023.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiad i Reoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990

2.  Mae Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3.  Yn rheoliad 2, yn y lle priodol mewnosoder—

local authority” includes a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021(4);.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

31 Awst 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990 (O.S. 1990/851) (“Rheoliadau 1990”) yn gosod cyfyngiadau ar weithgareddau gwleidyddol cyhoeddus swyddogion llywodraeth leol a benodir i swyddi sy’n swyddi o dan gyfyngiadau gwleidyddol, neu a gyflogir mewn swyddi o’r fath, at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) (“Deddf 1989”). Mae’r cyfyngiadau ar ffurf telerau ac amodau y bernir eu bod wedi eu hymgorffori yn nhelerau penodiad ac amodau cyflogaeth y swyddogion hynny (“y cyfyngiadau”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 2021) at Reoliadau 1990 er mwyn gosod y cyfyngiadau ar weithgareddau gwleidyddol cyhoeddus swyddogion cyd-bwyllgorau corfforedig sy’n ddeiliaid swyddi o dan gyfyngiadau gwleidyddol yng Nghymru at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf 1989.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau a gorchmynion cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar adeg gwneud y rheoliadau sefydlu hynny a dibynnir arno at ddiben y Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1989 p. 42. Mewnosodwyd adran 1(12) gan reoliad 10(2)(c) o O.S. 2021/1349.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, ac maent wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

O.S. 1990/851, a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/1310; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.