xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 185 (Cy. 37)

Ystadegau Swyddogol, Cymru

Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024

Gwnaed

21 Chwefror 2024

Yn dod i rym

1 Ebrill 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 6(1)(b)(iii) a (2) o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007(1).

Yn unol ag adran 6(3) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Bwrdd Ystadegau.

Yn unol ag adran 65(7) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2024.

Diwygio Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017

2.  Yn yr Atodlen i Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017(3), yn y lle priodol mewnosoder “Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”(4).

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

21 Chwefror 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r Atodlen i Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017 (“Gorchymyn 2017”). Mae Gorchymyn 2017 yn darparu bod yr ystadegau a gynhyrchir, neu sydd i’w cynhyrchu, gan y personau a restrir yn yr Atodlen yn ystadegau swyddogol at ddiben Rhan 1 o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r Atodlen i Orchymyn 2017 i ddarparu bod yr ystadegau a gynhyrchir, neu sydd i’w cynhyrchu, gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn ystadegau swyddogol at ddiben Rhan 1 o’r Ddeddf. Cafodd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ei sefydlu fel corff corfforedig gan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(2)

Mae’r cyfeiriad yn adran 65(7) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)

Sefydlwyd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil fel corff corfforedig gan adran 1 o Ddeddf Addysg Drydyddol

ac Ymchwil (Cymru) 2022 (dsc 1).