NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011 (O.S. 2011/656) (Cy. 94) (“y prif Reoliadau”) ac maent wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer eu pwerau o dan adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 (p. 27).

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniadau yn y prif Reoliadau. Mae’n ychwanegu diffiniadau newydd ar gyfer “adroddiad aelwydydd islaw’r incwm cyfartalog”, “aelwyd incwm is” a “meini prawf cymhwystra iechyd”. Mae hefyd yn diwygio’r diffiniad o “budd-daliad sy’n dibynnu ar brawf modd” i gynnwys “lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm”.

Mae rheoliad 5 yn diwygio’r meini prawf cymhwystra ar gyfer ceisiadau gweithfeydd o dan y prif Reoliadau. Mae’n estyn cymhwystra i geiswyr o aelwyd incwm is a, phan fo’r ceisydd yn cael budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd neu pan fo o aelwyd incwm is, i anheddau sydd â dosbarthiad ased o 68 neu lai (dosbarthiad tystysgrif perfformiad ynni o D neu lai) pan fo’r ceisydd neu feddiannydd ar yr annedd yn bodloni’r meini prawf cymhwystra iechyd. Mae hefyd yn diwygio’r prif Reoliadau fel y gellir gwneud mwy nag un cais gweithfeydd llwyddiannus mewn perthynas ag annedd.

Mae rheoliad 6 yn cywiro gwall drafftio yn y prif Reoliadau.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â cheisiadau gweithfeydd a wnaed ond na phenderfynwyd arnynt eto neu a wnaed ac a gymeradwywyd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.