xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 351 (Cy. 65)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

‌Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol) (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2024

Gwnaed

11 Mawrth 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1) (“Deddf 2014”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru, fel sy’n ofynnol gan adran 146(1) o Ddeddf 2014, wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy ynghylch drafft o’r Cod Ymarfer diwygiedig ar Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol).

Yn unol ag adran 146(2) o Ddeddf 2014, gosodwyd drafft o’r Cod Ymarfer diwygiedig ar Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol) gerbron Senedd Cymru(2) ar 14 Rhagfyr 2023.

Yn unol ag adran 146(3) o Ddeddf 2014, o fewn cyfnod o 40 niwrnod, ni phenderfynodd Senedd Cymru beidio â chymeradwyo’r Cod Ymarfer diwygiedig drafft ar Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol), a dyroddwyd y Cod diwygiedig ar ffurf y drafft.

Enwi a dehongli

1.—(1‌‌Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol) (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2024.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Diwygiedig” yw’r Cod Ymarfer ar Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol), y gosodwyd drafft ohono gerbron Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2023 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 7 Mawrth 2024.

Y diwrnod penodedig

2.  Y diwrnod penodedig i’r Cod Diwygiedig ddod i rym yw 1 Ebrill 2024.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

11 Mawrth 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ebrill 2024 fel y diwrnod y daw’r Cod Ymarfer diwygiedig ar Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol) i rym.

Dyroddwyd y Cod diwygiedig gan Weinidogion Cymru o dan adran 145(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) ar 7 Mawrth 2024.

Mae adran 145(3) o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, weithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod a rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys ynddo.

Mae’r Cod diwygiedig yn disodli’r Cod Ymarfer ar Swyddogaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a ddyroddwyd ar 16 Mawrth 2016.

Gellir gweld y Cod diwygiedig ar y rhyngrwyd ar www.llyw.cymru neu gellir cael copi printiedig wedi ei argraffu oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2014 dccc 4 (“Deddf 2014”).

(2)

Mae unrhyw gyfeiriad yn Neddf 2014 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).