2024 Rhif 358 (Cy. 66)
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) (Diwygio) 2024
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 18(1), 203 a 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061, a pharagraff 5(1)(a) o Atodlen 3 iddi, ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad a ragnodir o dan adran 18(3) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, dod i rym a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) (Diwygio) 2024 a daw i rym ar 1 Ebrill 2024.
2
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 19982.
Diwygio erthygl 1 o’r prif Orchymyn2
Yn erthygl 1(2) o’r prif Orchymyn, yn y diffiniad o “the trust”, yn lle “Welsh Ambulance Services National Health Service Trust” rhodder “Welsh Ambulance Services University National Health Service Trust”.
Diwygio erthygl 2 o’r prif Orchymyn3
Yn lle erthygl 2 o’r prif Orchymyn rhodder—
Establishment of the trust2
There is hereby established an NHS trust which shall be called Welsh Ambulance Services University National Health Service Trust or Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Arbed4
Nid yw’r newid enw y rhoddir effaith iddo gan erthygl 3—
a
yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan unrhyw berson, nac ar unrhyw rwymedigaeth sydd ar unrhyw berson, na
b
yn annilysu unrhyw offeryn (pa un a’i gwnaed cyn, ar neu ar ôl y diwrnod y daw’r Gorchymyn hwn i rym) sy’n cyfeirio at Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a rhaid dehongli pob offeryn neu ddogfen arall sy’n cyfeirio at yr enw hwnnw fel pe bai’n cyfeirio at yr ymddiriedolaeth.