xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 367 (Cy. 67)

Y Dreth Dirlenwi, Cymru

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Gwnaed

13 Mawrth 2024

Yn dod i rym

1 Ebrill 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 122(5) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016(1) ac adrannau 14(3) a (6), 46(4), 93 a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017(2).

Yn unol ag adran 189(2) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(3).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2024.

Cymhwyso

2.  Mae rheoliad 3 yn cael effaith mewn perthynas â gwarediad trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2024 neu ar ôl hynny.

Cyfraddau’r dreth gwarediadau tirlenwi

3.  Rhagnodir y cyfraddau a ganlyn yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4), o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn y drefn honno—

(a)y gyfradd safonol yw £103.70 y dunnell,

(b)y gyfradd is yw £3.30 y dunnell, ac

(c)y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £155.55 y dunnell.

Diwygio Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022

4.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022(4), ar ôl “neu ar ôl hynny” mewnosoder “ond cyn 1 Ebrill 2024”.

Diwygio Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

5.  Yn adran 122(3) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, yn Nhabl A1, yn y golofn â’r pennawd “Swm y dreth” ar gyfer eitem 10, yn lle “48 neu 49” rhodder “49 neu 50”.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

13 Mawrth 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r gyfradd safonol, y gyfradd is a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2024 neu ar ôl hynny.

Y gyfradd safonol yw £103.70 y dunnell, y gyfradd is yw £3.30 y dunnell a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £155.55 y dunnell.

Bydd gwarediadau trethadwy sydd wedi eu gwneud ar 1 Ebrill 2023 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2024 yn parhau’n ddarostyngedig i’r cyfraddau a osodir gan Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 1316 (Cy. 265)) o ganlyniad i’r diwygiad a wneir gan reoliad 5 o’r Rheoliadau hyn.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Tabl A1 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 i amnewid croesgyfeiriad rhif anghywir.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

2016 dccc 6. Diwygiwyd adran 122 gan adran 81(2)(3) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (dccc 1) a pharagraff 42 o Atodlen 23 iddi, adran 75 o Bennod 5 o Ran 5 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3) a pharagraff 11 o Atodlen 4 iddi, ac O.S. 2018/101.

(3)

Mae’r cyfeiriad yn adran 189(2) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).