2024 Rhif 388 (Cy. 68)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 10(2)a(ix)1, 21(5), 27(1), 28(1), 30(1), 31(1), 45, 46, 52(1) a (6), 186(1) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20162 (“y Ddeddf”) ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, fel sy’n ofynnol gan adrannau 27(4)(a) ac 28(4) ac ar ôl gosod copi oʼr datganiad a gyhoeddwyd o dan adran 27(4)(b) gerbron Senedd Cymru3 yn unol ag adran 27(5) o’r Ddeddf.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru o dan adran 187(2)(f), (g), (j) a (k) o’r Ddeddf ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.