xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 10Gofynion ychwanegol ar ddarparwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â mangreoedd – llety newydd

Cymhwyso Rhan 10

41.—(1Mae’r Rhan hon yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth preswyl ysgol arbennig a bod y fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn dod o fewn un o’r categorïau ym mharagraff (2). Ond nid yw’r Rhan hon yn gymwys os yw’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i bedwar neu lai o unigolion.

(2Y categorïau yw—

(a)Categori A: Mae’r fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn adeilad newydd neu adeilad presennol sydd wedi cael ei addasu at ddiben darparu’r gwasanaeth, ac, yn y naill achos neu’r llall, nad yw’r adeilad wedi cael ei ddefnyddio o’r blaen at ddiben darparu gwasanaeth preswyl ysgol arbennig;

(b)Categori B: Mae’r fangre yn adeilad neu adeiladau y mae estyniad wedi cael ei ychwanegu ato neu ei ychwanegu atynt ac y defnyddir yr estyniad at ddiben darparu’r gwasanaeth mewn man a bennir fel amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth;

(c)Categori C: Mae’r fangre yn adeilad a oedd heb ei feddiannu yn union cyn cofrestriad y darparwr gwasanaeth ond a oedd yn cael ei ddefnyddio o’r blaen at ddiben darparu gwasanaeth preswyl ysgol arbennig mewn man a bennir fel amod i gofrestriad darparwr gwasanaeth arall.

(3Os yw’r Rhan hon yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y cydymffurfir â gofynion rheoliadau 42 i 46.

Gofynion ychwanegol – ystafelloedd ymolchi en-suite

42.  Rhaid i bob ystafell wely a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth gael ystafell ymolchi en-suite sy’n cynnwys basn golchi dwylo, toiled a chawod hygyrch.

Gofynion ychwanegol – maint ystafelloedd

43.—(1Rhaid i bob ystafell a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth gael o leiaf 12 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio oni bai bod paragraff (2) neu (3) yn gymwys.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo rhaid i’r person sy’n byw yn yr ystafell ddefnyddio cadair olwyn yn barhaol ac yn gyson.

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ystafell wely yn cael ei rhannu.

(4Os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i’r ystafell wely gael o leiaf 13.5 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio.

(5Os yw paragraff (3) yn gymwys, rhaid i’r ystafell wely gael o leiaf 16 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio.

Gofynion ychwanegol – lle cymunedol

44.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r lle eistedd, hamdden a bwyta a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn unol â rheoliad 37(5) fod o leiaf—

(a)4.1 metr sgwâr ar gyfer pob unigolyn;

(b)5.1 metr sgwâr ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn.

(2Ar gyfer mangre Categori B, maeʼr rheoliad hwn yn gymwys fel bod rhaid iʼr gofyniad o ran lle gael ei fodloni mewn perthynas ag unrhyw ystafelloedd ychwanegol i unigolion.

Gofynion ychwanegol – lle yn yr awyr agored

45.  Rhaid i’r tiroedd allanol (neu, yn achos mangre Categori B, unrhyw ran oʼr tiroedd allanol a ddatblygir ar y cyd ag adeiladuʼr estyniad) a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn unol â rheoliad 37(9)—

(a)bod yn hygyrch i unigolion sy’n defnyddio cadair olwyn neu sydd â phroblemau symudedd eraill,

(b)bod â digon o seddi addas, ac

(c)bod wedi eu dylunio i ddiwallu anghenion pob unigolyn gan gynnwys y rhai sydd ag amhariadau corfforol, synhwyraidd a gwybyddol.

Gofynion ychwanegol – lifft i deithwyr

46.  Pan fo’r llety a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth ar fwy nag un llawr a bod hyn yn gyson â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth, rhaid i lifft i deithwyr fod ar gael.