xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
47. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cyflenwadau ar gael o nifer digonol ac o fath addas i gyflenwi’r gwasanaeth yn effeithiol ac i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolion.
48.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau—
(a)safonau hylendid boddhaol wrth gyflenwi’r gwasanaeth;
(b)bod gwastraff cyffredinol a chlinigol yn cael ei waredu’n briodol.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle ar gyfer rheoli heintiau a lleihau lledaeniad heintiau a rhaid iddo sicrhau y darperir y gwasanaeth yn unol â’r polisïau hyn a’r gweithdrefnau hyn.
49. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw risgiau i iechyd a diogelwch unigolion yn cael eu nodi a’u lleihau i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol.
50.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod meddyginiaethau yn cael eu storio a’u rhoi yn ddiogel.
(2) Rhaid i’r trefniadau hyn gynnwys y trefniadau ar gyfer—
(a)cynnal cyflenwad digonol o feddyginiaethau;
(b)cofnodi, trin a gwaredu meddyginiaethau yn effeithiol;
(c)archwilio storio a rhoi meddyginiaethau yn rheolaidd.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle mewn perthynas â storio a rhoi meddyginiaethau yn ddiogel a rhaid iddo sicrhau y darperir y gwasanaeth yn unol â’r polisi hwn a’r gweithdrefnau hyn.