RHAN 13Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol
Goruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth57
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth, sy’n cynnwys cymryd y camau a ddisgrifir yn rheoliadau 58, 63 a 64.
Dyletswydd i benodi rheolwr58
1
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) neu (3) yn gymwys.
2
Yr amodau yw—
a
bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn,
b
bod y darparwr gwasanaeth yn bwriadu rheoli’r gwasanaeth,
c
bod y darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth,
d
bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â rheoleiddiwr y gweithlu, ac
e
bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth.
3
Yr amodau yw—
a
bod y darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, yn gorff corfforedig neu’n gorff anghorfforedig,
b
bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd neu wasanaeth preswyl ysgol arbennig mewn dim mwy na dau le neu ei fod wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref mewn perthynas â dim mwy na dau le,
c
bod y darparwr gwasanaeth yn cynnig bod y person sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol ar gyfer y gwasanaeth i gael ei benodi i reoli’r gwasanaeth,
d
bod y person hwnnw yn addas i reoli’r gwasanaeth,
e
bod y person hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â rheoleiddiwr y gweithlu, ac
f
bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r person hwnnw reoli’r gwasanaeth.
4
At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw’r darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 31(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r darparwr gwasanaeth.
5
Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) wedi ei chyflawni os yw’r person a benodir i reoli’r gwasanaeth yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis.
Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr59
1
Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
2
At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 31(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.
Cyfyngiadau ar benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth60
1
Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli mwy nag un gwasanaeth, oni bai bod paragraff (2) yn gymwys.
2
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
os yw’r darparwr gwasanaeth wedi gwneud cais i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am ganiatâd i benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth, a
b
os yw’r rheoleiddiwr gwasanaethau wedi ei fodloni—
i
na fydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn cael effaith andwyol ar iechyd neu lesiant unigolion, a
ii
y bydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn darparu goruchwyliaeth ddibynadwy ac effeithiol o bob gwasanaeth.
Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i’r darparwr gwasanaeth61
Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 58(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol hysbysu’r darparwr gwasanaeth am—
a
enw’r person a benodir, a
b
y dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.
Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i reoleiddiwr y gweithlu a’r rheoleiddiwr gwasanaethau62
1
Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 58(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol hysbysu rheoleiddiwr y gweithlu a’r rheoleiddiwr gwasanaethau am—
a
enw, dyddiad geni a rhif cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru y person a benodir, a
b
y dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.
2
Mewn achos pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn a bod y rheoleiddiwr gwasanaethau wedi cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu rheoleiddiwr y gweithlu am—
a
enw, dyddiad geni a rhif cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru y darparwr gwasanaeth, a
b
y dyddiad y mae’r darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth ohono.
Y trefniadau pan yw rheolwr yn absennol63
1
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr neu pan nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth.
2
Os nad oes rheolwr neu os nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—
a
hysbysu’r darparwr gwasanaeth a’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a
b
rhoi gwybod iddynt am y trefniadau sydd wedi eu rhoi yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.
Ymweliadau64
1
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol—
a
ymweld â phob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, a
b
cwrdd â staff ac unigolion ym mhob man o’r fath.
2
Mae amlder ymweliadau a chyfarfodydd o’r fath i gael ei benderfynu gan yr unigolyn cyfrifol gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ond rhaid iddynt gael eu cynnal o leiaf bob tri mis.