57. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth, sy’n cynnwys cymryd y camau a ddisgrifir yn rheoliadau 58, 63 a 64.
58.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) neu (3) yn gymwys.
(2) Yr amodau yw—
(a)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn,
(b)bod y darparwr gwasanaeth yn bwriadu rheoli’r gwasanaeth,
(c)bod y darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth,
(d)bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â rheoleiddiwr y gweithlu, ac
(e)bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth.
(3) Yr amodau yw—
(a)bod y darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, yn gorff corfforedig neu’n gorff anghorfforedig,
(b)bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd neu wasanaeth preswyl ysgol arbennig mewn dim mwy na dau le neu ei fod wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref mewn perthynas â dim mwy na dau le,
(c)bod y darparwr gwasanaeth yn cynnig bod y person sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol ar gyfer y gwasanaeth i gael ei benodi i reoli’r gwasanaeth,
(d)bod y person hwnnw yn addas i reoli’r gwasanaeth,
(e)bod y person hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â rheoleiddiwr y gweithlu, ac
(f)bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r person hwnnw reoli’r gwasanaeth.
(4) At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw’r darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 31(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r darparwr gwasanaeth.
(5) Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) wedi ei chyflawni os yw’r person a benodir i reoli’r gwasanaeth yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis.
59.—(1) Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 31(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.
60.—(1) Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli mwy nag un gwasanaeth, oni bai bod paragraff (2) yn gymwys.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os yw’r darparwr gwasanaeth wedi gwneud cais i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am ganiatâd i benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth, a
(b)os yw’r rheoleiddiwr gwasanaethau wedi ei fodloni—
(i)na fydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn cael effaith andwyol ar iechyd neu lesiant unigolion, a
(ii)y bydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn darparu goruchwyliaeth ddibynadwy ac effeithiol o bob gwasanaeth.
61. Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 58(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol hysbysu’r darparwr gwasanaeth am—
(a)enw’r person a benodir, a
(b)y dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.
62.—(1) Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 58(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol hysbysu rheoleiddiwr y gweithlu a’r rheoleiddiwr gwasanaethau am—
(a)enw, dyddiad geni a rhif cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru y person a benodir, a
(b)y dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.
(2) Mewn achos pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn a bod y rheoleiddiwr gwasanaethau wedi cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu rheoleiddiwr y gweithlu am—
(a)enw, dyddiad geni a rhif cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru y darparwr gwasanaeth, a
(b)y dyddiad y mae’r darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth ohono.
63.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr neu pan nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth.
(2) Os nad oes rheolwr neu os nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—
(a)hysbysu’r darparwr gwasanaeth a’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a
(b)rhoi gwybod iddynt am y trefniadau sydd wedi eu rhoi yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.
64.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol—
(a)ymweld â phob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, a
(b)cwrdd â staff ac unigolion ym mhob man o’r fath.
(2) Mae amlder ymweliadau a chyfarfodydd o’r fath i gael ei benderfynu gan yr unigolyn cyfrifol gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ond rhaid iddynt gael eu cynnal o leiaf bob tri mis.