RHAN 21Diwygio rheoliadau cysylltiedig
Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 201781
Yn rheoliad 5 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 201724, ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”.
Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 201982
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 201925 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
a
yn rheoliad 2, ar ôl y diffiniad o “y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu” mewnosoder “ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig” (“the Special School Residential Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024;”;
b
ar ôl rheoliad 9, mewnosoder—
Troseddau o dan y Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig9A
1
Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 6 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.
2
Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 6 yn cynnwys disgrifiad o natur gyffredinol y drosedd ragnodedig.
3
Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 6.
c
ar ôl Atodlen 5, mewnosoder—
ATODLEN 6Troseddau rhagnodedig - gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig
Y ddarpariaeth sy’n creu’r drosedd
Natur gyffredinol y drosedd
Swm y gosb
Rheoliad 3(3) a (5) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig
Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben, neu fethiant i gydymffurfio â hwy
Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 7(3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig
Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy
Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 8(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig
Mynd yn groes i’r gofynion i gael polisïau a gweithdrefnau penodedig yn eu lle, neu fethiant i gydymffurfio â hwy
Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 15(1), (2) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig
Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth am y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy
Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 16(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig
Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu cytundeb gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy
Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 31(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig
Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag addasrwydd staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy
Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 34(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig
Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth ar gyfer staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy
Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 51(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig
Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chofnodion, neu fethiant i gydymffurfio â hwy
Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 52(1), (2) a (4) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig
Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â hysbysiadau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy
Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 58(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig
Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i benodi rheolwr, neu fethiant i gydymffurfio â hwy
Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 65(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig
Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i adrodd am ddigonolrwydd yr adnoddau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy
Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 66(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig
Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag unigolyn cyfrifol yn gwneud adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy
Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 71(4) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig
Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol adroddiad mewn cysylltiad ag adolygiad o ansawdd y gofal, neu fethiant i gydymffurfio â hwy
Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 72(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig
Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol ddatganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy
Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 75(1) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig
Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd yr unigolyn cyfrifol i wneud hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy
Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol