RHAN 6Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu ac o ran cael gafael ar wasanaethau iechyd
Safonau gofal a chymorth – gofynion cyffredinol17
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gofal a chymorth mewn ffordd sy’n amddiffyn, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gofal a chymorth i bob unigolyn yn unol â chynllun personol yr unigolyn.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gofal a chymorth mewn ffordd—
a
sy’n cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion a staff, a
b
sy’n annog ac yn cynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion.
4
Os nad yw’r darparwr gwasanaeth, o ganlyniad i newid yn anghenion asesedig yr unigolyn, yn gallu diwallu’r anghenion hynny mwyach, hyd yn oed ar ôl gwneud unrhyw addasiadau rhesymol, rhaid i’r darparwr roi hysbysiad ysgrifenedig o hyn i’r unigolyn, rhiant neu ofalwr yr unigolyn, ac unrhyw awdurdod lleoli ar unwaith.
Parhad gofal18
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod unigolion yn cael parhad gofal sy’n rhesymol i ddiwallu eu hanghenion am ofal a chymorth.
Gwybodaeth19
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan unigolion a’u rhieni neu eu gofalwyr yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i wneud neu gymryd rhan mewn asesiadau, cynlluniau a phenderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir gofal a chymorth iddynt a sut y maent yn cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol.
2
Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir fod ar gael yn yr iaith, yr arddull, y cyflwyniad a’r fformat priodol, gan roi sylw i—
a
natur y gwasanaeth fel y’i disgrifir yn y datganiad o ddiben;
b
lefel dealltwriaeth yr unigolyn a’i allu i gyfathrebu.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolion a’u rhieni a’u gofalwyr yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.
Iaith a chyfathrebu20
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion iaith unigolion.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir mynediad i unrhyw gymhorthion a chyfarpar sy’n angenrheidiol i unigolyn i hwyluso’r ffordd y mae’r unigolyn yn cyfathrebu ag eraill.
Parch a sensitifrwydd21
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolion yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.
2
Mae hyn yn cynnwys, ond nid ywʼn gyfyngedig i—
a
parchu preifatrwydd ac urddas yr unigolyn;
b
parchu hawliau’r unigolyn i gyfrinachedd;
c
hybu ymreolaeth ac annibyniaeth yr unigolyn;
d
rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel y diffinnir “protected characteristics” yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 201015) yr unigolyn.
Cael gafael ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill22
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle er mwyn i unigolion—
a
gallu cael gafael ar driniaeth, cyngor a gwasanaethau eraill gan unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd fel y bo angen, a
b
cael eu cefnogi i gael gafael ar wasanaethau o’r fath.
Yn y rheoliad hwn, ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” yw person sydd wedi ei gofrestru’n aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 199916 yn gymwys iddo.