RHAN 8Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran staffio
Staffio – gofynion cyffredinol30
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas wedi eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—
a
i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth;
b
i anghenion gofal a chymorth yr unigolion;
c
i gefnogi unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol;
d
i ofynion y rheoliadau yn Rhannau 2 i 12.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth allu dangos y ffordd y mae’r penderfyniad wedi ei wneud o ran—
a
y mathau o staff a ddefnyddir, a
b
niferoedd y staff o bob math a ddefnyddir.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer cefnogi a datblygu staff.
4
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau nad yw cyflogi neu gymryd ymlaen unrhyw bersonau ar sail dros dro neu ar gontract oriau heb eu gwarantu yn atal unigolion rhag cael y parhad gofal y mae’r darparwr wedi penderfynu yn unol â rheoliad 18 ei fod yn rhesymol i ddiwallu eu hanghenion am ofal a chymorth.
5
Ym mharagraff (4), ystyr “contract oriau heb eu gwarantu” yw contract cyflogaeth neu gontract gweithiwr arall—
a
y mae’r ymgymeriad i wneud gwaith neu i gyflawni gwasanaethau odano yn ymgymeriad i wneud hynny ar yr amod bod y cyflogwr yn gwneud gwaith neu wasanaethau ar gael i’r gweithiwr, a
b
nad oes unrhyw sicrwydd odano y bydd unrhyw waith o’r fath neu unrhyw wasanaethau o’r fath yn cael eu gwneud ar gael i’r gweithiwr.
Addasrwydd staff31
1
Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—
a
cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;
b
caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;
c
caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth neu â phersonau eraill sy’n hyglwyf oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
2
At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—
a
bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da;
b
bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i’w wneud;
c
bod y person oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawni’n briodol y tasgau sy’n rhan annatod o’r gwaith y mae wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ar ei gyfer;
d
bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 a bod yr wybodaeth hon neu’r ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni;
e
pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â rheoleiddiwr y gweithlu heb fod yn hwyrach na’r dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8) am ystyr “y dyddiad perthnasol”);
f
yn ddarostyngedig i baragraff (11), pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr), ac eithrio fel rheolwr, i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson, fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â rheoleiddiwr y gweithlu heb fod yn hwyrach na’r dyddiad perthnasol (gweler paragraff (9) am ystyr “y dyddiad perthnasol”);
g
yn ddarostyngedig i baragraff (11), pan fo’r person wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, ac eithrio fel rheolwr, i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad â’r gwasanaeth, fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â rheoleiddiwr y gweithlu heb fod yn hwyrach na’r dyddiad perthnasol (gweler paragraff (10) am ystyr “y dyddiad perthnasol”).
3
Rhaid i gais gael ei wneud am dystysgrif GDG gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer y swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid ywʼr gofyniad hwn yn gymwys os ywʼr person syʼn gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG.
4
Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.
5
Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.
6
Pan na fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif newydd GDG mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.
7
Os nad yw unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
a
cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion perthnasol;
b
pan fo’n briodol, roi gwybod—
i
i’r corff rheoleiddiol neu broffesiynol perthnasol;
ii
i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
8
Ym mharagraff (2)(e), “y dyddiad perthnasol” yw 31 Mawrth 2025.
9
Ym mharagraff (2)(f), “y dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad diweddaraf o blith naill ai—
a
30 Medi 2026,
b
chwe mis o’r dyddiad y dechreuodd y person ei gyflogaeth, neu
c
dyddiad diweddarach y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol.
10
Ym mharagraff (2)(g), “y dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad diweddaraf o blith naill ai—
a
30 Medi 2026,
b
chwe mis o’r dyddiad y cafodd y person ei gymryd ymlaen yn gyntaf o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i ddarparu gofal a chymorth, neu
c
dyddiad diweddarach y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol.
11
Nid ywʼr gofyniad bod person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â rheoleiddiwr y gweithlu yn unol â pharagraff (2)(f) ac (g) yn gymwys pan foʼr person wedi ei gyflogi (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr) neu ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i weithio fel—
a
nyrs, neu
b
proffesiynolyn cofrestredig.
12
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “nyrs” (“nurse”) yw nyrs gymwysedig neu fydwraig gymwysedig sydd wedi ei chofrestru âʼr Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 200118;mae i “proffesiynolyn cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered professional” ym mharagraff 1 o Atodlen 3 i Orchymyn Proffesiynau Iechyd 200119.
Cefnogi a datblygu staff32
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—
a
yn cael cyfnod sefydlu sy’n briodol i’w rôl;
b
yn cael ei wneud yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill;
c
yn cael ei oruchwylio a’i arfarnu’n briodol;
d
yn cael hyfforddiant craidd sy’n briodol i’r gwaith sydd i’w wneud ganddo;
e
yn cael hyfforddiant arbenigol fel y bo’n briodol;
f
yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach syʼn briodol iʼr gwaith y maeʼn ei wneud.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth yn cael ei gefnogi i gynnal ei gofrestriad â’r corff rheoleiddiol neu alwedigaethol priodol.
Cydymffurfio â chod ymarfer y cyflogwr33
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lynu wrth y cod ymarfer ar y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i reoleiddiwr y gweithlu ei gyhoeddi o dan adran 112(1)(b) o’r Ddeddf.
Gwybodaeth ar gyfer staff34
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gwybodaeth i bob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth am y gwasanaeth a’r ffordd y caiff ei ddarparu.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i reoleiddiwr y gweithlu eu cyhoeddi o dan adran 112(1)(a) o’r Ddeddf.
Gweithdrefnau disgyblu35
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle a’i gweithredu.
2
Rhaid iʼr weithdrefn ddisgyblu gynnwys—
a
darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogai er budd diogelwch neu lesiant pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth;
b
darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gam-drin, neu am amheuaeth o gam-drin, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.
3
At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—
a
y darparwr gwasanaeth,
b
yr unigolyn cyfrifol,
c
swyddog i’r rheoleiddiwr gwasanaethau,
d
swyddog i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y darperir y gwasanaeth ynddi,
e
yn achos cam-drin neu amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog i’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu
f
swyddog heddlu.