RHAN 3Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’w cymryd cyn cytuno i ddarparu gofal a chymorth

Addasrwydd y gwasanaeth10

1

Ni chaiff y darparwr gwasanaeth ddarparu gofal a chymorth ar gyfer unigolyn oni bai bod y darparwr gwasanaeth wedi penderfynu bod y gwasanaeth yn addas i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn ac i gefnogi’r unigolyn i gyflawni ei ganlyniadau personol.

2

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar dderbyniadau a chychwyn y gwasanaeth.

3

Rhaid i’r penderfyniad o dan baragraff (1) ystyried—

a

cynllun gofal a chymorth yr unigolyn,

b

os nad oes cynllun gofal a chymorth, asesiad y darparwr gwasanaeth o dan baragraff (4),

c

unrhyw asesiadau iechyd neu addysg neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,

d

safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,

e

unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn,

f

unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt,

g

unrhyw addasiadau rhesymol y gallai’r darparwr gwasanaeth eu gwneud i alluogi i anghenion gofal a chymorth yr unigolyn gael eu diwallu, ac

h

polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar dderbyniadau a chychwyn y gwasanaeth.

4

Mewn achos pan na fo gan yr unigolyn gynllun gofal a chymorth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

a

asesu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn, a

b

nodi ei ganlyniadau personol.

5

Rhaid i’r asesiad sy’n ofynnol gan baragraff (4) gael ei gynnal gan berson sydd—

a

â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i gynnal yr asesiad, a

b

wedi cael hyfforddiant i gynnal asesiadau.

6

Wrth wneud y penderfyniad ym mharagraff (1), rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, unrhyw awdurdod lleoli a rhiant neu ofalwr yr unigolyn. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys rhiant neu ofalwr—

a

os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r rhiant neu’r gofalwr gael ei gynnwys, neu

b

pe byddai cynnwys y rhiant neu’r gofalwr yn anghyson â llesiant yr unigolyn.