RHAN 3Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’w cymryd cyn cytuno i ddarparu gofal a chymorth

Addasrwydd y gwasanaeth

10.—(1Ni chaiff y darparwr gwasanaeth ddarparu gofal a chymorth ar gyfer unigolyn oni bai bod y darparwr gwasanaeth wedi penderfynu bod y gwasanaeth yn addas i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn ac i gefnogi’r unigolyn i gyflawni ei ganlyniadau personol.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar dderbyniadau a chychwyn y gwasanaeth.

(3Rhaid i’r penderfyniad o dan baragraff (1) ystyried—

(a)cynllun gofal a chymorth yr unigolyn,

(b)os nad oes cynllun gofal a chymorth, asesiad y darparwr gwasanaeth o dan baragraff (4),

(c)unrhyw asesiadau iechyd neu addysg neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,

(d)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,

(e)unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn,

(f)unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt,

(g)unrhyw addasiadau rhesymol y gallai’r darparwr gwasanaeth eu gwneud i alluogi i anghenion gofal a chymorth yr unigolyn gael eu diwallu, ac

(h)polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar dderbyniadau a chychwyn y gwasanaeth.

(4Mewn achos pan na fo gan yr unigolyn gynllun gofal a chymorth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)asesu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn, a

(b)nodi ei ganlyniadau personol.

(5Rhaid i’r asesiad sy’n ofynnol gan baragraff (4) gael ei gynnal gan berson sydd—

(a)â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i gynnal yr asesiad, a

(b)wedi cael hyfforddiant i gynnal asesiadau.

(6Wrth wneud y penderfyniad ym mharagraff (1), rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, unrhyw awdurdod lleoli a rhiant neu ofalwr yr unigolyn. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys rhiant neu ofalwr—

(a)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r rhiant neu’r gofalwr gael ei gynnwys, neu

(b)pe byddai cynnwys y rhiant neu’r gofalwr yn anghyson â llesiant yr unigolyn.