Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024

Adolygu’r cynllun personol

12.—(1Rhaid i’r cynllun personol gael ei adolygu fel sy’n ofynnol, a phan fo’n ofynnol, ond o leiaf bob tri mis.

(2Yn achos plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid sicrhau bod unrhyw adolygiad o’r cynllun personol yn cyd-fynd â’r adolygiadau y mae’n ofynnol iddynt gael eu cynnal gan yr awdurdod lleol o dan Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(1).

(3Rhaid i adolygiadau o gynllun personol gynnwys adolygiad o’r graddau y mae’r unigolyn wedi gallu cyflawni ei ganlyniadau personol.

(4Wrth gynnal adolygiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, unrhyw awdurdod lleoli a rhiant neu ofalwr yr unigolyn. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys rhiant neu ofalwr yr unigolyn—

(a)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r rhiant neu’r gofalwr gael ei gynnwys, neu

(b)pe byddai cynnwys y rhiant neu’r gofalwr yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

(5Ar ôl cwblhau unrhyw adolygiad sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried a ddylai’r cynllun personol gael ei ddiwygio a diwygio’r cynllun fel y bo angen.