RHAN 4Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’w cymryd wrth gychwyn darparu gofal a chymorth
Cofnodion o gynlluniau personol13
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
a
cadw cofnod—
i
o’r cynllun personol ac unrhyw gynllun diwygiedig, a
ii
o ganlyniad unrhyw adolygiad, a
b
rhoi copi o’r cynllun personol ac unrhyw gynllun diwygiedig—
i
i’r unigolyn,
ii
i riant neu ofalwr yr unigolyn, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn, a
iii
i unrhyw awdurdod lleoli.