RHAN 4Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’w cymryd wrth gychwyn darparu gofal a chymorth
Asesiad darparwr14
1
O fewn 7 niwrnod i gychwyn darparu gofal a chymorth ar gyfer unigolyn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
a
asesu sut y gellir diwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn orau,
b
asesu sut y gall yr unigolyn gael ei gefnogi orau i gyflawni ei ganlyniadau personol,
c
canfod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,
d
asesu unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac
e
asesu unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt.
2
Cyfeirir yn y Rheoliadau hyn at yr asesiad o dan baragraff (1) fel asesiad darparwr.
3
Rhaid i asesiad darparwr gael ei gynnal gan berson sydd—
a
â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i gynnal yr asesiad, a
b
wedi cael hyfforddiant i gynnal asesiadau.
4
Rhaid i asesiad darparwr ystyried—
a
cynllun gofal a chymorth yr unigolyn, os oes un ar gael,
b
asesiad y darparwr gwasanaeth o dan reoliad 10(4), os yw’n gymwys,
c
unrhyw asesiadau iechyd neu addysg neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,
d
safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,
e
unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac
f
polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar dderbyniadau a chychwyn y gwasanaeth.
5
Wrth gynnal neu ddiwygio asesiad darparwr, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, unrhyw awdurdod lleoli a rhiant neu ofalwr yr unigolyn. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys rhiant neu ofalwr yr unigolyn—
a
os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r rhiant neu’r gofalwr gael ei gynnwys, neu
b
pe byddai cynnwys y rhiant neu’r gofalwr yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
6
Rhaid i asesiad darparwr gael ei gadw o dan adolygiad a’i ddiwygio fel y bo angen.
7
Ar ôl cwblhau asesiad y darparwr ac unrhyw asesiad diwygiedig, rhaid i’r cynllun personol gael ei adolygu a’i ddiwygio fel y bo angen.
8
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gadw cofnod o asesiad darparwr a rhoi copi o’r asesiad i’r unigolyn ac i riant neu ofalwr yr unigolyn.