Safonau gofal a chymorth – gofynion cyffredinol
17.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gofal a chymorth mewn ffordd sy’n amddiffyn, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gofal a chymorth i bob unigolyn yn unol â chynllun personol yr unigolyn.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gofal a chymorth mewn ffordd—
(a)sy’n cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion a staff, a
(b)sy’n annog ac yn cynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion.
(4) Os nad yw’r darparwr gwasanaeth, o ganlyniad i newid yn anghenion asesedig yr unigolyn, yn gallu diwallu’r anghenion hynny mwyach, hyd yn oed ar ôl gwneud unrhyw addasiadau rhesymol, rhaid i’r darparwr roi hysbysiad ysgrifenedig o hyn i’r unigolyn, rhiant neu ofalwr yr unigolyn, ac unrhyw awdurdod lleoli ar unwaith.