RHAN 10Gofynion ychwanegol ar ddarparwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â mangreoedd – llety newydd
Gofynion ychwanegol – lle cymunedol44
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r lle eistedd, hamdden a bwyta a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn unol â rheoliad 37(5) fod o leiaf—
a
4.1 metr sgwâr ar gyfer pob unigolyn;
b
5.1 metr sgwâr ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn.
2
Ar gyfer mangre Categori B, maeʼr rheoliad hwn yn gymwys fel bod rhaid iʼr gofyniad o ran lle gael ei fodloni mewn perthynas ag unrhyw ystafelloedd ychwanegol i unigolion.