RHAN 2Dehongli Rhan 1
11. At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 oʼr Atodlen hon—
(a)os nad ywʼr person y maeʼr dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—
(i)os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 31(3) neu (6), a
(ii)os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers iʼr dystysgrif gael ei dyroddi;
(b)os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.