ATODLEN 3

Rheoliad 52

RHAN 1Hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau

1

Unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, 28 o ddiwrnodau cyn i’r datganiad o ddiben diwygiedig gymryd effaith.

2

Bod y darparwr gwasanaeth (unigolyn neu sefydliad) yn newid ei enw.

3

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforedig, unrhyw newid—

a

i gyfarwyddwyr,

b

i ymddiriedolwyr, neu

c

i aelodau o bwyllgor rheoli,

d

y corff corfforedig.

4

Pan foʼr darparwr gwasanaeth yn gorff anghorfforedig, unrhyw newid iʼr personau syʼn ymwneud â rheoli a rheolaeth y corff.

5

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw.

6

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro mewn perthynas â’r corff corfforaethol hwnnw neu’r bartneriaeth honno.

7

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, marwolaeth un o’r partneriaid.

8

Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, unrhyw newid i’r partneriaid.

9

Absenoldeb disgwyliedig yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.

10

Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.

11

Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.

12

Bod yr unigolyn cyfrifol yn dychwelyd o fod yn absennol.

13

Bod yr unigolyn cyfrifol yn peidio â bod, neu’n bwriadu peidio â bod, yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth.

14

Unrhyw achos o gam-drin neu unrhyw honiad o gam-drin mewn perthynas ag unigolyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth a/neu aelod o staff a/neu wirfoddolwr.

15

Bod y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei euogfarnu o drosedd.

16

Unrhyw honiad o gamymddwyn gan aelod o staff.

17

Unrhyw niwed pwyso categori 3 neu 4 neu niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam.

18

Unrhyw ddamwain ddifrifol neu anaf difrifol i unigolyn.

19

Achos o unrhyw glefyd heintus.

20

Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.

21

Unrhyw ddigwyddiadau sy’n atal, neu a allai atal, y darparwr rhag parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn ddiogel.

22

Pan fo llety wedi ei ddarparu, marwolaeth unigolyn a’r amgylchiadau.

23

Unrhyw gais i gorff goruchwylio mewn perthynas â chymhwyso’r mesurau diogelwch amddifadu o ryddid yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 200528.

24

Bod y fangre yn cael ei newid neu ei hestyn yn sylweddol neu y bwriedir gwneud hynny.

25

Bod mangre ychwanegol yn cael ei chaffael neu y bwriedir gwneud hynny.

26

Unrhyw gynnig i newid cyfeiriad y brif swyddfa, 28 o ddiwrnodau cyn i’r newid ddigwydd.

27

Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

28

Pan fo’r darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Meini Prawf Rhagnodedig a Darpariaethau Amrywiol) 200929, hysbysiad o’r drosedd a gyhuddir a’r man cyhuddo.

29

Cychwyn a chanlyniad dilynol unrhyw ymholiad amddiffyn plant neu unrhyw ymholiad amddiffyn oedolion sy’n ymwneud ag unigolyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth.

30

Unrhyw honiad bod unigolyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.

31

Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar unigolyn neu unrhyw amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar unigolyn.

32

Unrhyw achos pan fo unigolyn yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.

RHAN 2Hysbysiadau i’r awdurdod lleoli mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac i riant neu ofalwr mewn perthynas ag unigolion eraill

33

Unrhyw achos o gam-drin neu unrhyw honiad o gam-drin mewn perthynas â’r unigolyn sy’n ymwneud â’r darparwr neu aelod o staff.

34

Bod yr unigolyn yn cael damwain ddifrifol neu anaf difrifol.

35

Unrhyw niwed pwyso categori 3 neu 4 neu niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam a gaiff yr unigolyn.

36

Achos o unrhyw glefyd heintus.

37

Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu sy’n ymwneud â’r unigolyn.

38

Marwolaeth yr unigolyn tra bo’n cael ei letya gan y gwasanaeth, a’r amgylchiadau.

39

Honiad bod yr unigolyn wedi cyflawni trosedd ddifrifol tra bo’n cael ei letya gan y gwasanaeth.

40

Unrhyw achos pan fo’r unigolyn yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad tra bo’n cael ei letya yn y gwasanaeth.

41

Unrhyw gofnod o reolaeth neu ataliaeth mewn perthynas â’r unigolyn sy’n ofynnol o dan reoliad 51 a pharagraff 5(g) o Atodlen 2.

42

Cychwyn a chanlyniad dilynol unrhyw ymholiad amddiffyn plant neu oedolion sy’n ymwneud â’r unigolyn mewn perthynas â digwyddiadau a ddigwyddodd tra bo’r unigolyn wedi ei letya yn y gwasanaeth.

43

Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar yr unigolyn neu unrhyw amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar yr unigolyn.

RHAN 3Hysbysiadau iʼr awdurdod lleol y maeʼr gwasanaeth yn ei ardal

44

Marwolaeth unigolyn a’r amgylchiadau.

45

Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar unigolyn neu unrhyw amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar unigolyn.

46

Unrhyw achos pan fo unigolyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.

RHAN 4Hysbysiadau i’r swyddog heddlu priodol

47

Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar unigolyn neu unrhyw amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar unigolyn.

RHAN 5Hysbysiadau i’r bwrdd iechyd y mae’r gwasanaeth yn ei ardal

48

Achos o unrhyw glefyd heintus.

49

Marwolaeth unigolyn a’r amgylchiadau.