RHAN 5Yr hawl i gael amser i ffwrdd

Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a chanddynt ddiwrnodau gweithio penodedig a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau32

1

Mae gan weithiwr amaethyddol a gyflogir gan yr un cyflogwr drwy gydol y flwyddyn gwyliau blynyddol hawl i gael y swm gwyliau blynyddol a ragnodir yn y Tabl yn Atodlen 2.

2

Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ac unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer penodedig o ddiwrnodau cymwys bob wythnos, nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos at ddibenion y Tabl yn Atodlen 2 yw’r nifer penodedig hwnnw o ddiwrnodau.