RHAN 5Yr hawl i gael amser i ffwrdd
Amseru gwyliau blynyddol35
1
Caiff gweithiwr amaethyddol gymryd gwyliau blynyddol y mae ganddo hawl i’w cymryd o dan y Gorchymyn hwn unrhyw bryd o fewn y flwyddyn gwyliau blynyddol yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ei gyflogwr.
2
Nid oes gan weithiwr amaethyddol hawl i gario unrhyw hawl gwyliau blynyddol nas cymerwyd ymlaen o’r naill flwyddyn gwyliau i’r flwyddyn gwyliau nesaf heb gymeradwyaeth ei gyflogwr.
3
Pan fo cyflogwr wedi cytuno y caiff gweithiwr amaethyddol gario unrhyw hawl gwyliau blynyddol nas cymerwyd ymlaen, dim ond yn ystod y flwyddyn gwyliau y mae’n cael ei gario ymlaen iddi y caniateir i’r balans gael ei gymryd.
4
Yn ystod y 6 mis cyntaf mewn unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol caiff cyflogwr ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gymryd hyd at 2 wythnos o’i hawl gwyliau blynyddol o dan y Gorchymyn hwn a chaiff gyfarwyddo i’r gweithiwr gymryd un o’r 2 wythnos hynny o wyliau blynyddol ar ddiwrnodau yn yr un wythnos.
5
Yn ystod yr ail 6 mis mewn unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol, rhaid i gyflogwr ganiatáu i weithiwr amaethyddol gymryd 2 wythnos o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr o dan y Gorchymyn hwn mewn wythnosau olynol.
6
At ddibenion yr erthygl hon, mae 1 wythnos o wyliau blynyddol gweithiwr amaethyddol yn cyfateb i nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol fel y’i pennir yn unol ag erthyglau 32 a 33.