RHAN 6Dirymu a darpariaeth drosiannol

Dirymu a darpariaeth drosiannol

45.—(1Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023(1) wedi ei ddirymu.

(2Mae gweithiwr amaethyddol a gyflogir fel gweithiwr ar Radd neu fel prentis, ac sy’n ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a ragnodwyd yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023 neu unrhyw Orchmynion blaenorol, yn ddarostyngedig, o’r dyddiad y mae’r Gorchymyn hwn yn cymryd effaith, i’r telerau a’r amodau a nodir yn Rhannau 2 i 5 o’r Gorchymyn hwn.

(3Yn yr erthygl hon ystyr “Gorchmynion blaenorol” yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023, Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022(2), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022(3), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020(4), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2019(5), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2018(6), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017(7), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016(8), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 a phob gorchymyn a ddirymwyd gan erthygl 70 o’r Gorchymyn hwnnw.