xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
45.—(1) Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023(1) wedi ei ddirymu.
(2) Mae gweithiwr amaethyddol a gyflogir fel gweithiwr ar Radd neu fel prentis, ac sy’n ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a ragnodwyd yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023 neu unrhyw Orchmynion blaenorol, yn ddarostyngedig, o’r dyddiad y mae’r Gorchymyn hwn yn cymryd effaith, i’r telerau a’r amodau a nodir yn Rhannau 2 i 5 o’r Gorchymyn hwn.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “Gorchmynion blaenorol” yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023, Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022(2), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022(3), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020(4), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2019(5), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2018(6), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017(7), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016(8), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 a phob gorchymyn a ddirymwyd gan erthygl 70 o’r Gorchymyn hwnnw.