2024 Rhif 400 (Cy. 72)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) (Diwygio) 2024

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(1) i (3) o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (“Deddf 1999”)1 a pharagraffau 2, 11, 17 ac 20(1)(b) o Atodlen 1 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru, yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf 1999, wedi ymgynghori ag—

a

Cyfoeth Naturiol Cymru,

b

y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol, diwydiant, amaethyddiaeth a busnesau bach, yn eu trefn, y maent yn ystyried eu bod yn briodol, ac

c

y cyrff neu’r personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Yn unol ag adran 2(8) o Ddeddf 1999, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad2.