Diwygio rheoliad 6 (pecynwaith a chategorïau o becynwaith)7
Yn rheoliad 6—
a
ym mharagraff (1)—
i
yn is-baragraff (c), yn lle “cynwysyddion” rhodder “pecynwaith cludo na chynwysyddion”;
ii
yn is-baragraff (d), hepgorer “a ychwanegir”;
b
ar ôl paragraff (6), mewnosoder—
7
Pan fo cynhwysydd diod yn cynnwys nifer o gydrannau sydd wedi eu gwneud o wahanol ddeunyddiau—
a
mae’r cynhwysydd diod i’w drin fel pe bai wedi ei wneud o’r un deunydd â’r gydran sy’n pwyso fwyaf (“y gydran fwyaf”), oni bai bod y gydran fwyaf wedi ei gwneud o wydr;
b
pan fo’r gydran fwyaf wedi ei gwneud o wydr, mae pob cydran o’r cynhwysydd diod i’w thrin ar wahân at ddibenion y Rheoliadau hyn.