xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
9. Ar ôl rheoliad 7 (pecynwaith cartref), mewnosoder—
7A.—(1) Rhaid i CNC ddarparu canllawiau at ddibenion rheoliad 7 (pecynwaith cartref)—
(a)ar y dystiolaeth y caiff cynhyrchydd ei defnyddio i ddangos bod pecynwaith cynradd neu becynwaith cludo yn cael ei gyflenwi i fusnes neu sefydliad cyhoeddus sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn ddefnyddiwr terfynol y pecynwaith;
(b)ynghylch pan fydd—
(i)cynnyrch i’w drin fel pe bai wedi ei gynllunio i’w ddefnyddio gan fusnes neu sefydliad cyhoeddus yn unig, a
(ii)pecynwaith ar gyfer y cynnyrch hwnnw i’w drin fel pecynwaith nad yw’n rhesymol debygol o gael ei waredu mewn bin cartref neu fin cyhoeddus.
(2) Caiff CNC ystyried y ffactorau a ganlyn wrth lunio canllawiau o dan baragraff (1)(b)—
(a)maint y pecynwaith;
(b)pwysau’r pecynwaith;
(c)a yw cyflenwi cynnyrch yn ddarostyngedig i gyfyngiadau a osodir gan neu o dan ddeddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth;
(d)pa mor hawdd yw hi i dreuliwr gael gafael ar gynnyrch neu ei becynwaith;
(e)a yw cynnyrch yn debygol o gael ei ddefnyddio gan fusnes mewn cartref;
(f)unrhyw ffactor arall y mae CNC yn ystyried ei fod yn berthnasol.”