NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“y Ddeddf”).

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn nodi’r gwasanaethau gofal cymdeithasol y mae’r Ddeddf yn gymwys iddynt, ac yn eu diffinio fel “gwasanaethau rheoleiddiedig”. Mae’r mathau o “gwasanaethau rheoleiddiedig” a nodir yn y Ddeddf yn cynnwys “gwasanaethau cartrefi gofal”. Mae adran 2(3) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi mewn rheoliadau nad yw gwasanaethau penodol yn “gwasanaethau rheoleiddiedig”.

Mae adran 27 o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i osod, mewn rheoliadau, ofynion ar ddarparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig mewn perthynas â’r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae Gweinidogion Cymru wedi arfer y pŵer hwn i wneud Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1264 (Cy. 295)) (“y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu nad yw gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol yn “gwasanaeth cartref gofal” o dan y Ddeddf. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn newid i ba raddau y mae Rhan 13 o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig yn gymwys i wasanaethau llety ac yn gwneud gwahanol ddiwygiadau eraill i’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig.

Diben gofal canolraddol yw osgoi derbyn oedolyn yn ddiangen neu cyn pryd i ysbyty neu wasanaeth cartref gofal, a galluogi rhyddhau oedolyn o’r ysbyty yn amserol. Darperir gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol i oedolion mewn llety sydd wedi ei freinio yn yr awdurdod lleol, pan fo’r gofal a’r cymorth yn cael eu darparu gan wasanaeth cymorth cartref awdurdod lleol rheoleiddiedig.

Mae rheoliadau 3 a 4 wedi eu gwneud o dan adran 2(3) o’r Ddeddf ac yn diwygio rheoliad 2 o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (gwasanaethau cartrefi gofal). Effaith y diwygiad yw nad yw’r ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, pan fo’r llety a’r nyrsio neu’r gofal wedi eu darparu i oedolion at ddibenion gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol, yn gyfystyr â “gwasanaeth cartref gofal” o dan y Ddeddf.

Nid yw’r eithriad hwn ond yn gymwys pan fo’r awdurdod lleol yn gyfrifol am ddarparu gofal canolraddol, a bo’r gofal yn cael ei ddarparu i bob oedolyn am uchafswm o 16 o wythnosau ar y tro.

Mae Rhan 13 o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig yn ymdrin â’r amgylchiadau pan fo gofynion ychwanegol ynghylch safon mangreoedd yn gymwys i wasanaethau llety newydd. Nid yw Rhan 13 yn gymwys i wasanaethau sy’n darparu llety i bedwar neu lai o unigolion. Mae rheoliadau 5 a 6 yn newid i ba raddau y mae gofynion Rhan 13 yn gymwys i wasanaethau llety cofrestredig sy’n ailgyflunio’u mangreoedd er mwyn darparu llety i bump neu ragor o unigolion.

Bydd yn ofynnol i wasanaethau llety a oedd wedi eu hesemptio yn flaenorol o ofynion Rhan 13 oherwydd eu bod yn darparu llety i lai na phump o unigolion, neu oherwydd eu bod yn darparu llety i fwy na phump o unigolion mewn mangreoedd nad oeddent yng Nghategori A, B nac C, gydymffurfio â gofynion Rhan 13 os yw ailgyflunio’r mangreoedd yn arwain at gynyddu’r capasiti i bump neu ragor o unigolion yn y gwasanaeth. Bydd gofynion Rhan 13 yn gymwys i unrhyw ystafelloedd gwely ychwanegol sydd wedi eu creu oherwydd yr ailgyflunio ac i bob ardal gymunedol ac yn yr awyr agored. Bydd y cynnydd yng nghapasiti’r gwasanaeth yn cael ei adlewyrchu mewn amrywiad i amodau cofrestru’r gwasanaeth.

Mae rheoliadau 7 ac 8 yn gwneud mân ddiwygiadau amrywiol.

Mae rheoliad 9 yn gwneud trefniadau trosiannol mewn cysylltiad â’r diwygiad a wneir gan reoliad 6.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.